George Habash | |
---|---|
Ganwyd | 2 Awst 1926 Lod |
Bu farw | 26 Ionawr 2008 Amman |
Dinasyddiaeth | Palesteina dan Fandad |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, meddyg |
Plaid Wleidyddol | Popular Front for the Liberation of Palestine, Arab Nationalist Movement |
Perthnasau | Yousef Habash |
Arweinydd Palesteinaidd oedd George Habash (Arabeg: جورج حبش), hefyd "al-Hakim" (2 Awst, 1926 – 26 Ionawr, 2008).
Ganed ef yn Lydda (Lod yn Israel heddiw) i deulu o Balesteiniaid Cristionogol. Yn 1948 roedd ei deulu ymysg tua 10,000 o drigolion Palestinaidd a yrrwyd o'r ddinas pan gipiwyd hi gan Israel. Astudiodd feddygaeth yn Beirut a daeth yn feddyg yn 1951.
Ffurfiodd Habash y Mudiad Cenedlaethol Arabaidd yn 1951 a daeth yn ffigwr amlwg yn y PLO hyd at ryfel 1967. Wedi i Israel orchfygu'r cynghrair Arabaidd yn y rhyfel hwnnw, collodd ei ddylanwad a chymerodd Yasser Arafat ei le. Sefydlodd Habash y Popular Front for the Liberation of Palestine (PFLP). Ymddiswyddodd o arweinyddiaeth y PFLP yn 2000 oherwydd problemau iechyd.